Ecclesiastes 11

1“Bydd yn hael a rhannu dy gynnyrch
11:1 Hebraeg, “Tafla dy fara ar wyneb y dyfroedd.” Idiom sy'n disgrifio haelioni.

ac ymhen amser fe gei dy dalu'n ôl.
2Rho beth ohono i nifer o wahanol bobl,
wyddost ti ddim beth all fynd o'i le yn dy fywyd.”
3Pan mae'r cymylau'n dduon,
byddan nhw'n tywallt glaw ar y ddaear.
Sdim ots i ba gyfeiriad mae coeden yn syrthio,
bydd yn aros lle syrthiodd.
4Fydd ffermwr sy'n disgwyl tywydd perffaith byth yn hau,
a'r un sy'n gwylio pob cwmwl byth yn medi cynhaeaf.
5Yn union fel na elli wybod sut mae anadl bywyd
yn mynd i gorff plentyn yng nghroth ei fam,
alli di ddim rhagweld beth fydd Duw'n ei wneud,
a fe sydd wedi creu popeth.
6Hau dy had yn y bore,
a phaid segura gyda'r nos;
wyddost ti ddim pa un fydd yn llwyddo –
y naill neu'r llall, neu'r ddau fel ei gilydd.

Cyngor yr Athro – mwynhau bywyd

7“Mae golau bywyd
11:7 golau bywyd Hebraeg, “golau”. Mae golau yn ddarlun o fywyd, a thywyllwch yn ddarlun o farwolaeth.
mor felys,
ac mae'n hyfryd cael gweld yr haul!”
8Os ydy rhywun yn cael oes hir,
dylai fwynhau'r blynyddoedd i gyd,
ond rhaid cofio fod dyddiau tywyll marwolaeth yn hirach.
Mae popeth sydd i ddod yn ddirgelwch!

Cyngor i bobl ifanc fod yn ddoeth

9Ti'n ifanc! Mwynha dy hun
tra mae gen ti gyfle!
Cei ddigon o hwyl a sbri
pan wyt ti'n ifanc.
Gwna be fynni di,
beth bynnag sy'n cymryd dy ffansi –
ond cofia y bydd Duw
yn dy alw i gyfrif am y cwbl.
10Paid cael dy lethu gan boenau bywyd,
a chadwa dy hun yn iach!
Dydy ieuenctid a gwallt du ddim yn para'n hir!
Copyright information for CYM